Lleoliad

Sut i ddod o hyd i ni

Gan deithio o’r gogledd, cymerwch yr A487 o Aberystwyth i Aberteifi. Yn Aberteifi trowch i’r chwith i’r A484, a dilyn yr arwydd am Gastellnewydd Emlyn a Chaerfyrddin. Byddwch chi’n gweld ein safle ar y dde yn fuan ar ôl mynd drwy bentref Llechryd.
O’r de, o ffordd osgoi ddwyreiniol Caerfyrddin teithiwch i’r gogledd ar yr A484, gan ddilyn arwyddion i Aberteifi. Arhoswch ar yr A484 drwy Gastellnewydd Emlyn. Yn fuan ar ôl mynd heibio Cenarth byddwch chi’n gweld ein safle ar y chwith.