Hanes

Hanes byr y melinau llifio

Mae James Davies yn Abercych yn nyffryn hardd Afon Teifi. Mae’n gymuned â hanes hir o fod yn ganolfan gwaith coed – yn y 19eg ganrif roedd y rhan fwyaf o deuluoedd y pentref wrthi’n gwneud powlenni, llwyau a stolion pren o sycamorwydden ac onnen leol.

Roedd gweithdy teulu Davies yn y pentref ar waith tua diwedd y 1800au gan ddefnyddio pŵer dŵr i wneud cynhyrchion pren wedi’i durnio. Erbyn y 1930au daeth newyddiadurwr i’r pentref a chanfod James Davies, hen dad-cu’r cyfarwyddwr cyfredol, yn cynhyrchu eitemau o ansawdd fel coesau rhaw a bwyell i’w defnyddio yn y diwydiant cloddio.

Cafodd y cwmni ei gorffori ym 1953 pan symudodd i’w safle cyfredol ar lannau Afon Teifi. Heddiw, rheolir y busnes gan Quinton Davies ac mae’n cyflogi 34 o bobl leol.