Melinau Llifio James Davies

Defnyddio’r goeden gyfan

Cynhyrchion gwydn, graenus a gwasanaeth dibynadwy o ansawdd yw hanfod James Davies (Abercych) Cyf. Fel melin lifio a busnes coed teuluol mae gennym dros ganrif o brofiad o roi dibynadwyedd wrth wraidd ein gwaith.

Rydym wedi adeiladu ein busnes drwy roi’r flaenoriaeth fwyaf i anghenion cwsmeriaid a magu perthnasoedd gwaith cryf â chleientiaid sy’n seiliedig ar ymddiried yn ein gilydd a deall ein gilydd. Rydym hefyd yn ymdrechu bob amser i wella’r ffordd y gwnawn ein gwaith ac mae buddsoddiad diweddar yn y dechnoleg ddiweddaraf un mewn melinau llifio wedi sicrhau cynhyrchion gwell byth a gwella perfformiad amgylcheddol.